Ymateb y Llywodraeth: Rheoliadau Arolygon Etholiadau Lleol (Cymru) (Diwygio) 2022

 

Pwynt Craffu ar Rinweddau 1: Ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad llawn o’r effaith ar gydraddoldeb gan na fu unrhyw newid i’r polisi sy’n sail i’r Rheoliadau hyn. Fel y nodir yn y Memorandwm Esboniadol, rhagnodir y gofyniad i gynnal yr arolwg mewn deddfwriaeth, gan gynnwys y cwestiynau i’w gofyn wrth gynnal yr arolwg.

Byddai defnyddio’r arolwg blaenorol a gynhwyswyd yn Rheoliadau 2012 ar gyfer etholiadau mis Mai 2022 wedi sicrhau cydymffurfedd cyfreithiol. Er hynny, teimlwyd ei bod yn briodol y dylid profi’r cwestiynau er mwyn sicrhau eu bod yn parhau’n briodol.

Yn ystod y broses ymgysylltu hon, roedd yn amlwg bod rhai materion yn codi o ran yr iaith a ddefnyddiwyd yn yr arolwg blaenorol hwnnw o ran cydraddoldeb ac amrywiaeth. Ymchwiliwyd ymhellach i hyn â rhanddeiliaid er mwyn sicrhau bod yr iaith a ddefnyddir yn yr arolwg yn adlewyrchu iaith briodol gyfredol.

Y bwriad yw cynnal gwerthusiad llawn o drefniadau’r arolwg gan gynnwys y dull o’i gynnal a’r cynnwys yn dilyn cwblhau arolwg 2022. Ar y pwynt hwn, cynhelir set lawn o asesiadau effaith er mwyn hwyluso polisi’r dyfodol.